Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (167) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Aled Roberts (Gogledd Cymru):O ystyried y dirywiad yng nghanlyniadau Cymru mewn perthynas â’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella, ar fyrder, y safonau addysg a chyrhaeddiad yng Nghymru?
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Gofynnwyd cwestiynau 2 i 15. Trosglwyddwyd cwestiwn 1 i’w ateb yn ysgrifenedig.
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 15.10
4 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Ymatebion i’r Papur Gwyn “Rhentu Cartrefi”
Dechreuodd yr eitem am 15.22
5 Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5376 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg (Cymru).
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw rhan 3 wedi ei chynnwys mewn Bil anghenion addysgol arbennig ar wahân i blant a phobl ifanc.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5376 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg (Cymru).
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
28 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio o blaid y cynnig er mwyn caniatáu trafodaeth bellach o’r Bil yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3.
6 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Addysg (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5377 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
28 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio o blaid y cynnig er mwyn caniatáu trafodaeth bellach o’r Bil yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3
7 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.41
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Adolygu gweithrediad y Ddeddf
4, 1
2. Trefniadau trosiannol
6, 7
3. Cynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu
5, 5A, 3
Gwelliant 5 yw’r prif welliant yn y grŵp
Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwaredu yn y drefn: 5A, 5, 3
4. Ymgynghoriad gan y corff
8
5. Colli swyddi
2
Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5A:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
1 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5A.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
15 |
13 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
8 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Cyllid y GIG (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.29
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Trosolwg
1
2. Dyletswyddau ariannol Bryddau Iechyd Lleol
2
3. Dyletswyddau Cyllunio Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru
3
4. Cyflwyno Adroddiadau
4, 4A, 5, 7, 8
Bydd y gwelliannau hyn cael eu gwaredu yn y drefn - 4A, 4, 5, 7
5. Pŵer i fenthyca
6
Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4A:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4A.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
9 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gan fod gwelliant 7 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 8.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
10 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 18.13
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.19
Daeth y cyfarfod i ben am 18:22
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2013